Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Communities, Equality and Local Government Committee

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Jane Hutt AC

Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

 Caerdydd / Cardiff

CF99 1NA

                                                            

                              

 

5 Rhagfyr 2014

 

 

 

Annwyl Weinidog

 

Bu'r Pwyllgor yn trafod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3 i'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth ar 3 Rhagfyr 2014.

 

Cytunodd yr Aelodau y dylwn ysgrifennu atoch yn gofyn am eglurhad ynghylch eich dealltwriaeth o fwriadau polisi Llywodraeth y DU mewn perthynas â chymalau 149-151 (yn flaenorol, cymalau 146-148) o'r Bil. Yn benodol, hoffai Aelodau gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

 

§  Mewn perthynas â'r pŵer i Drysorlys Ei Mawrhydi wneud rheoliadau sy'n mynnu ad-dalu rhywfaint neu'r cyfan o unrhyw daliad ymadael cymwys mewn amgylchiadau penodedig (yn unol â pharagraff 8a y cynnig cydsyniad deddfwriaethol), beth yw'r amgylchiadau penodedig hynny ym marn Llywodraeth Cymru?

 

§  Mewn perthynas â thaliad ymadael cymwys, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn datgan bod hyn yn golygu taliad o ddisgrifiad penodol a wneir i weithiwr neu ddeiliad swydd o awdurdod sector cyhoeddus rhagnodedig pan fyddant yn gadael eu swydd. Pa awdurdodau sector cyhoeddus a swyddi fydd wedi'u cynnwys yn y darpariaethau hyn? A fydd yn cynnwys, er enghraifft, swyddogion llywodraeth leol, cynghorwyr, staff gwasanaethau tân ac achub a'r heddlu?

 

§  A fydd trothwy isaf o ran y taliadau ymadael sydd i'w had-dalu ac, os felly, beth fydd y trothwy hwnnw?

 

§  Mewn perthynas â'r pŵer i hepgor y gofyniad i ad-dalu, os caiff hwn ei roi i Weinidogion Cymru, o dan ba amgylchiadau byddai Llywodraeth Cymru yn rhagweld defnyddio'r pŵer hwnnw?

 

Y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yw 8 Ionawr. Ar sail hynny, byddwn yn ddiolchgar i gael ateb gennych erbyn dydd Mercher 10 Rhagfyr er mwyn i'r Aelodau allu trafod eich ymateb ar 11 Rhagfyr, yn ein cyfarfod olaf o'r tymor.

 

Yn gywir

 

Christine Chapman AC

Cadeirydd